Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 6:16
Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd-dod i gyfiawnder?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15Beth wrth hynny? a bechwn ni, oherwydd nad ydym dan y ddedff, eithr dan ras? Na ato Duw.
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 6
Cross References
Matthew 6:24¶ Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a esgeulusa’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.
John 8:34Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod.
Romans 6:17Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi.
2 Peter 2:19Gan addo rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth.