1 Peter 3:1
Yr un ffunud, bydded y gwragedd ostyngedig i’w gwŷr priod; fel, od oes rhai heb gredu i’r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hennill hwy heb y gair,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn.
Cross References
Genesis 3:16Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhâu yr amlhâf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad fydd at dy wr, ac efe a lywodraetha arnat ti.
Proverbs 11:30Ffrwyth y cyfiawn sydd megis y bywyd: a’r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth.
Matthew 18:15¶ Ac os pecha dy frawd i’th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a enillaist dy frawd.
Romans 7:2Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr.
1 Corinthians 7:16Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost tithau, ŵr, a gedwi di dy wraig?
1 Corinthians 11:3Eithr mi a fynnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Crist; a phen y wraig yw’r gŵr; a phen Crist yw Duw.