1 Peter 3:14
Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na’ch cynhyrfer,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13A phwy a’ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda?
Cross References
Isaiah 41:10Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di a deheulaw fy nghyfiawnder. º
Jeremiah 1:8Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: Canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr ARGLWYDD.
Ezekiel 3:9Gwneuthum dy daloen fel adamant, yn galetach na'r gallestr: oac ofna bwynt, ac na ddychryna rhag eu hwynebau, er mai ty gwrthryfelgar ydynt.
Matthew 10:18A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd.
Matthew 10:31Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to.
Matthew 16:25Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid i, a’i caiff.