1 Peter 4:1
A hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â’r un meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd.
Cross References
Isaiah 1:16Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg;
Mark 3:3Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol.
Romans 6:7Canys y mae’r hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.
Romans 13:12Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau’r goleuni.
Galatians 5:24A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau.
Philippians 2:5Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu: