1 Peter 4:14
Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd, oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 11:25Yna y disgynodd yr Arglwydd mewn cwmmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymmerodd o’r yspryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg henaf-gwyr a thri ugain. A thra y gorphwysai yr yspryd arnynt, y prophwydent, ac ychwaneg ni wnaent.
2 Kings 2:15A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo.
Psalms 49:9Meddyliasom, O DDUW, am dy drugaredd yng nghanol dy deml.
Psalms 146:5Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf.
Isaiah 51:7Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon: nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad. º
Matthew 5:16Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.