Ail Lyfr Samuel 20:13
Fel hyn y gwnel yr ARGI.WYDD i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a’th ollyngaf ymaith, fel yr elych mcwn heddwch: a bydded yr ARGLWYDD gyda thi, megis y bu gyda’m tad i. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr ARGLWYDD A mi, fel na byddwyf fi marw: º
Read all of Ail Lyfr Samuel 20
Cross References
Ruth 1:17Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr ARGLWYDD i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau.
1 Samuel 10:7A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo yr achos: canys Duw sydd gyda thi.." º
1 Samuel 14:47Felly y cymerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel; ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddi amgylch, yn erbyn Moab, ac yn erbyn meibion Ammon, ac yn erbyn Edom, ac yn erbyn brenhinoedd Soba, ac yn erbyn y Philistiaid: ac yn erbyn pwy bynnag yr wynebodd, efe a brchfygodd. º
1 Samuel 18:12A Saul oedd yn ofni Dafydds oherwydd bod yr ARGLWYDD gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul. º
2 Samuel 3:35A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo’r haul.
2 Samuel 19:13Dywedwch hefyd wrth Amasa, Onid fy asgwrn i a’m cnawd wyt ti? Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth. º