Ail Lyfr Samuel 20
1Adafydd a ffodd o Naioth yn Rama: ac a ddaeth, ac a ddywedodd gerbron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth yw fy anwiredd? a pheth yw fy rohechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i? º
2Ac efe a ddywedodd wrtho, Na ato Duw; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid felly y mae. º
3A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a wŷr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristau ef: cyn wired a bod yr ARGLWYDD 3m fyw, a’th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau. º
4Yna y dywedodd Jonathan with Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a’i cwblhaf i ti. º
5A Dafydd a ddywedodd wrth Jona¬than, Wele, y dydd cyntaf o’r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda’r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y try dydd dydd. º
6Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei him: canys aberth blynyddol sydd yno i’r holl genedl. º
7Os fel hyn y dywed efe. Da; heddwch fydd i’th was: ond os gan ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg. º
8Gwna gan hynny drugaredd a’th was, canys i gyfamod yr ARGLWYDD y dygaist dy was gyda thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad? º
9A dywedodd Jonathan, Na ato Duw hynny i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i’th erbyn, onis mynegwn iti? º
10A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a’th etyb yn arw?,’ º
11A dywedodd Jonathan wrth Da¬fydd, Tyred, ac awn i’r maes. A hwy a aethant ill dau i’r maes. ‘ º
12A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd, O ARGLWYDD DDUW Israel, wedi i mi chwilio meddwl fy nhad, ynghylch y pryd hwn yfory, neu drennydd; ac wele, os daioni fydd tuag at Dafydd, ac oni anfonaf yna atat ti, a’i fyncgi i ti; º
13Fel hyn y gwnel yr ARGI.WYDD i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a’th ollyngaf ymaith, fel yr elych mcwn heddwch: a bydded yr ARGLWYDD gyda thi, megis y bu gyda’m tad i. º
14Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr ARGLWYDD A mi, fel na byddwyf fi marw: º
15Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth: na chwaith pan ddistrywio yr ARGLWYDD elynion Dafydd, bob un oddi ar wyneb y ddaear. º
16Felly y cyfamododd Jonathan a thŷ Dafydd; ac efe a ddywedodd, Gofynned, yr ARGLWYDD hyn ar law gelynion Dafydd. º
17A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, oherwydd efe a’i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef. º
18A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Yfory yw y dydd cyntaf o’r mis: ac ymofynnir amdanat; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag.;. º
19Ac wedi i ti aros dridiau, yna tyred i waered yn fuan; a thyred i’r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y petti ac waith, ac aros wrth faen Esel. º
20A mi a saethaf dair o saethau tua’i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod. º
21Wele hefyd, mi a anfonaf lane, gan ddywedyd, DOS, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr ARGLWYDD. º
22Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr ARGLWYDD a’th anfonodd ymaith. º
23Ac am y peth a leferais i, mi a thi, wele yr ARGLWYDD fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd. º
24Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o’r mis, y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd. º
25A’r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; sef ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag. º
26Ac nid ynganodd Saul ddim y diwmod hwnnw: canys meddyliodd mai il.nnwain oedd hyn; nad’ oedd efe lan, a’i l d yn aflan. º
27A bu drannoeth, yr ail ddydd o’r inis, fod lle Dafydd yn wag. A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab, Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na lleddiw? º
28A Jonathan a atebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem: º
29Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i’n tyiwyth ni y mae uberth yn y ddinas, a’m brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin. º
30Yna y llidiodd dieter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, Ti fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam? º
31Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni’th sicrheir di na’th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef ataf; canys marw a gaiff efe. º
32A Jonathan a atebodd Saul.ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?; º
33A Saul a ergydiodd waywffon ato ef, i’w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd. º
34Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon, ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o’r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, oherwydd i’w dad ei waradwyddo ef. º
35A’r bore yr aeth Jonathan i’r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd, a bachgen bychan gydag ef. º
36Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, Rhed, cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu. A’r bachgen a redodd: yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef. º
37A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan, y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, Onid yw y saeth o’r tu hwnt i ti? º
38A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, Cyflyma, brysia, na saf. A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr. º
39A’r bachgen ni wyddai ddim: yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth.., º
40A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen, ac a ddywedodd"wrtho, DOS, dwg y rhai hyn i’r ddinas. º
41A’r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau, ac a. syrthiodd i lawr ar ei.wyneb, ac a ymgrymodd dair gwaith. A hwy. a gjlisanasant bob un ei gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd. º
42A dywedodd Jonathan wrth Da¬fydd, DOS mewn heddwch: yr hya a dyngasom ni ein dau yn enw yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a’th had dithau, safed hynny yn dragy¬wydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i’r ddinas.