The Bible Software
Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus · Beibl (1620)

Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 5

1Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a’r rhai ieuainc, megis brodyr;

2Yr hen wragedd, megis mam au; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, gyda phob purdeb.

3Anrhydedda’r gwragedd gweddwon, y rhai sydd wir weddwon.

4Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu wyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu’r pwyth i’w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw.

5Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd.

6Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw.

7A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd.

8Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na’r di-ffydd.

9Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr,

10Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.

11Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant;

12Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf.

13A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys.

14Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi.

15Canys y mae rhai eisoes wedi gwyro ar ôl Satan.

16Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.

17Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a’r athrawiaeth.

18Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dymu’r yd:ac, Y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.

19Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion.

20Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngwydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill.

21Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a’r Arglwydd Iesu Grist, a’r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.

22Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur.

23Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, er mwyn dy gylla a’th fynych wendid.

24Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o’r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd.

25Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o’r blaen, a’r rhai sydd amgenach, nis gellir eu cuddio.

← Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 4Read In The App, Free →Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 6 →

Study Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 5

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456