2 Chronicles 14:11
Ac Asa a waeddodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, nid yw ddim i ti gynorthwyo, pa un bynnag ai gyda llawer, ai gyda’r rhai nid oes ganddynt gryfder: cynorthwya di ni, O ARGLWYDD ein Duw; canys pwyso yr ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon: O AR¬GLWYDD, ein Duw ni ydwyt ti, na orfydded dyn i’th erbyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef, a hwy a luniaethasant ryfel yn nyffryn Seffatha wrth Maresa.
12Felly yr ARGLWYDD a drawodd yr Ethiopiaid o flaen Asa, ac o flaen Jwda; a’r Ethiopiaid a ffoesant.
Cross References
Exodus 14:10¶ A phan nesaodd Pharaoh, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Aiphtiaid yn dyfod ar eu hol; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd.
Deuteronomy 32:27Oni bai i mi ofni dig y gelyn, rhag i’w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddïeithr, a rhag dywedyd o honynt, Ein llaw uchel ni, ac nid yr Arglwydd, a wnaeth hyn oll.
Deuteronomy 32:36Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarhâ am ei weision; pan welo ymadaw o’ u nerth, ac nad oes na gwarchaëedig, na gweddilledig.
Judges 7:7A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Trwy’r tri channwr a lepiasant y dwfr, y gwaredaf chwi, ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di: ac eled yr holl bobl eraill bob un i’w fangre ei hun.
1 Samuel 14:6A dywedodd Jonathan with y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef. Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr ARGLWYDD gyda ni: canys nid oes rwystr i’r ARGLWYDD waredu trwy lawer neu trwy ychydig. º
1 Samuel 17:45Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiaid, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac a gwaywffon, ac a tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw ARGLWYDD y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti. º