2 Chronicles 14:3
Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a’r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW.
4Ac a orchmynnodd i Jwda geisio ARGLWYDD DDUW eu tadau, a gwneuthur y gyfraith a’r gorchymyn.
Cross References
Exodus 34:13Eithr dinystriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.
Deuteronomy 7:5Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinystriwch eu hallorau, a thorrwch en colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân.
Judges 6:25A’r noson honno y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Cymer y bustach sydd eiddo dy dad, sef yr ail fustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad, a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi:
1 Kings 14:22A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD; a hwy a’i hanogasant ef i eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent. º
2 Kings 18:4Efe a dynnodd ymaith yr uchel¬feydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a’i galwodd hi Nehustan. º
2 Kings 23:14Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a-dorrodd y llwyni, ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion. º