2 Chronicles 14:4
Ac a orchmynnodd i Jwda geisio ARGLWYDD DDUW eu tadau, a gwneuthur y gyfraith a’r gorchymyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
And commanded Judah to seek the LORD God of their fathers, and to do the law and the commandment.
In Context
Cross References
Genesis 18:19Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo yr Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano.
1 Samuel 3:13Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt.
2 Chronicles 29:21A hwy a ddygasant saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifr, yn bech-aberth dros y frenhiniaeth, a thros y cysegr, a thros Jwda: ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron, am offrymu y rhai hynny ar allor yr ARGLWYDD.
2 Chronicles 29:30A Heseceia y brenin a’r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr ARGLWYDD, â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly hwy a folianasant a llawenydd, ac a ymostyngasant, ac a addolasant.
2 Chronicles 30:19A baratodd ei galon i geisio Duw, gef ARGLWYDD DDUW ei dadau, er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr.
2 Chronicles 34:32Ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Jerwsalem, ac yn Benjamin, sefyll wrth yr amod: trigolion Jerwsalem hefyd a wnaethant yn ôl cyfamod Duw, sef Duw eu tadau.