2 Chronicles 15:2
Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr AR¬GLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Asareia mab Oded.
3Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir DDUW, a heb offeiriad yn ddysgawdwr, a heb gyfraith.
Cross References
Numbers 14:43Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ol yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyd â chwi.
Deuteronomy 20:1Ni wasanaetha dinystrio prennau ymborth dyn, wrth warchae ar ddinas. Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: o herwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, yr hwn a’th ddug di i fynu o dir yr Aipht.
Judges 9:7A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau. º
1 Samuel 12:14Os ofnwch chwi yr ARGLWYDD, a’i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y byddwch chwi, a’r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr ARGLWYDD eich Duw. º
1 Kings 11:25Ac yr oedd efe yn wrthwynebwr i Israel holl ddyddiau Solomon, heblaw y drwg a wnaeth Hadad: ac efe a ffieidd" iodd Israel, ac a deyrnasodd ar Syria. º
1 Chronicles 28:9A thithau Solomon fy mab, adne-bydd DDUW dy dad, a gwasanaetha ef a chalon berffaith, ac a meddwl ewyllysgar: canys yr ARGLWYDD sydd yn Chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd. º