The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 15

1Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Asareia mab Oded.

2Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr AR¬GLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau.

3Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir DDUW, a heb offeiriad yn ddysgawdwr, a heb gyfraith.

4Ond pan ddychwelent yn eu cyfyngdra at ARGLWYDD DDUW Israel, a’i geisio ef, efe a geid ganddynt.

5Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i’r hwn oedd yn myned allan, nac i’r hwn oedd yn dyfod i mewn: ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd.

6A chenedl a ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas: oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd.

7Ymgryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylo: canys y mae gwobr i’ch gwaith chwi.

8A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda, a Benjamin, ac o’r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim, ac a adnewyddodd allor yr ARGLWYDD, yr hon oedd o flaen porth yr ARGLWYDD.

9Ac efe a gynullodd holl Jwda, a Benjamin, a’r dieithriaid gyda hwynt, o Effraim a Manasse, ac o Simeon: canys. hwy a syrthiasant ato ef yn arni o Israel, pan welsant fod yr ARGLWYDD ei DDUW gydag ef.

10Felly hwy a ymgynullasant i Jerwsalem, yn y trydydd mis, yn y bymthegfed. flwyddyn o deyrnasiad Asa.

11A hwy a aberthasant i’r ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, o’r anrhaith a ddygasent, saith gant o eidionau, a saith mil o ddefaid.

12A hwy a aethant dan gyfamod i geisio ARGLWYDD DDUW eu tadau, a’u holl galon, ac a’u holl enaid:

13A phwy bynnag ni cheisiai AR GLWYDD DDUW Israel, fod ei roddi ef i farwolaeth, yn fychan ac yn fawr, yn ŵr ac yn wraig.

14A hwy a dyngasant i’r ARGLWYDD â llef uchel, ac â bloedd, ag utgyrn hefyd, ac â thrwmpedau.

15A holl Jwda a lawenychasant oherwydd y llw; canys a’u holl galon y tyngasent, ac â’u holl ewyllys y ceisiasant ef, a hwy a’i cawsant ef: a’r ARGLWYDD a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch.

16A’r brenin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn: ac Asa a donodd ei delw hi, ac a’i drylliodd, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron.

17Ond ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd o Israel: eto yr oedd calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef.

18Ac efe a ddug i mewn i dŷ yr ARGLWYDD yr hyn a gysegrasai ei dad, a’r hyn a gysegrasai efe ei hun, arian, ac aur, a llestri.

19Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.

← 2 Chronicles 14Read In The App, Free →2 Chronicles 16 →

Study 2 Chronicles 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536