2 Chronicles 17:5
Am hynny yr ARGLWYDD a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 26:13A’r gwr a gynnyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn.
1 Samuel 10:27Ond meibion Belial a ddywedasant, Pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a’i dirmygasant ef, ac ni ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.
1 Kings 4:21A Solomon oedd yn llywodraethi ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.
1 Kings 10:25A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, ac arfau, a phêr-aroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn. º
2 Chronicles 1:15A’r brenin a wnaeth yr arian a’r aur yn Jerwsalem cyn amled â’r cerrig, a chedrwydd a roddes efe fel y sycamorwydd o amldra, y rhai sydd yn tyfu yn y doldir.
2 Chronicles 18:1Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab.