2 Chronicles 17:4
Eithr Duw ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchmynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 9:4Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, mewn perffeithrwydd calon ac uniondeb i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti, ac os cedwi fy neddfau a’m barnedigaethau: º
1 Kings 12:30A’r peth hyn a aeth yn bechod: cfclegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan. _ º
1 Kings 13:33Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a’i cysegrai ef, ac efe a gai fod yn offeiriad i’r uchelfeydd. º
2 Kings 8:18Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhin¬oedd Israel, fel y gwnai tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. º
2 Chronicles 14:6Ac efe a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda, oherwydd bod y wlad yn cael llonydd, ac nad oedd rhyfel yn ei erbyn ef yn y blynyddoedd hynny, oblegid yr ARGLWYDD a roddasai lonyddwch iddo.
2 Chronicles 22:9Ac efe a geisiodd Ahaseia; a hwy a’i daliasant ef, (canys yr oedd efe yn llechu yn Samaria;) a hwy a’i dygasant ef at Jehu: lladdasant ef hefyd, a chladdasant ef; canys dywedasant, Mab Jehosaffat yw efe, yr hwn a geisiodd yr ARGLWYDD â’i holl galon. Felly nid oedd gan dy Ahaseia nerth i lynu yn y deyrnas.