2 Chronicles 19:2
A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o’i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casau yr ARGLWYDD, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD sydd arnat ti.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1A Jehosoffat brenin Jwda a ddychwelodd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch.
Cross References
Deuteronomy 5:9Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;
Deuteronomy 32:41Os hogaf fy nghleddyf disglaer, ac ymaflyd o’m llaw mewn barn; dychwelaf ddïal ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i’m caseion.
1 Samuel 9:9(Gynt yn Israel, fel hyn y dywedai gŵr wrth fyned i ymgynghori a Duw; Deuwch, ac awn hyd at y gweledydd: canys y Proffwyd heddiw, a elwid gynt yn Weledydd.) º
1 Kings 16:7Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr ARGLWYDD yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei d ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr ARGLWYDD, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd ef. º
1 Kings 21:25Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef. º
2 Chronicles 18:1Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab.