The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 19

1A Jehosoffat brenin Jwda a ddychwelodd i’w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch.

2A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o’i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casau yr ARGLWYDD, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD sydd arnat ti.

3Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o’r wlad, ac a baratoaist dy galon i geisio Duw.

4A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem: ac efe a aeth drachefn trwy’r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim, ac a’u dug hwynt eilwaith at ARGLWYDD DDUW eu tadau.

5Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd;

6Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr ARGLWYDD; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn.

7Yn awr gan hynny bydded ofn yr ARGLWYDD arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd nid oes anwiredd gyda’r ARGLWYDD ein Duw, na derbyn wyneb, na chymryd gwobr.

8A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o’r Lefiaid, ac o’r offeiriaid, ac o bennau tadau Israel, i drin barnedigaethau yr ARGLWYDD, ac amrafaelion, pan ddychwelent i Jerwsalem.

9Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pel hyn y gwnewch mewn ofn yr ARGLWYDD, mewn ffyddlondeb, ac â chalon berffaith.

10A pha amrafael bynnag a ddel atoch chwi oddi wrth eich brodyr, y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd, rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigaetliau, rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr ARGLWYDD, a bod digofaint arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch ac na throseddwch.

11Ac wele, Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i’r ARGLWYDD; a Sebadeia mab Ismael, blaenor tŷ Jwda, ym mhob achos i’r brenin; a’r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi. Ymwrolwch, a gwnewch hynny, a’r ARGLWYDD fydd gyda’r daionus.

← 2 Chronicles 18Read In The App, Free →2 Chronicles 20 →

Study 2 Chronicles 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536