bible.software › 2 Chronicles › 2 Chronicles 23 › 2 Chronicles 23:19
2 Chronicles 23:19
Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll.
Beibl (1620)
In The King James Version
And he set the porters at the gates of the house of the LORD, that none which was unclean in any thing should enter in.
In Context
18A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr ARGLWYDD, dan law yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr ARGLWYDD, i offrymu poethoffrymau yr ARGLWYDD, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd.
20Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd, a’r pendefigion, a’r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlad, ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr ARGLWYDD: a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth.
Read all of 2 Chronicles 23
Cross References
1 Chronicles 9:23Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau. º
2 Chronicles 8:14Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dad, ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth, a’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth, i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd, a’r porthorion yn eu dosbarthiadau, wrth bob porth: canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw.
This Verse In Other Editions
Study 2 Chronicles 23:19