The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 23

1Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada, ac y cymerodd dywysogion y cannoedd, Asareia mab Jeroham, ac Ismael mab Johanan, ac Asareia mab Obed, a Maaseia mab Adaia, ac Elisaffat mab Sichri, gydag ef mewn cyfamod.

2A hwy a aethant o amgylch yn Jwda, ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda, a phennau-cenedl Israel, ac a ddaethant i Jerwsalem.

3A’r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â’r brenin yn nhŷ DDUW: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Wele, mab y brenin a deyrnasa, fel y llefarodd yr AR¬GLWYDD am feibion Dafydd.

4Dyma y peth a wnewch chwi; Y drydedd ran ohonoch, y rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid, fydd yn borthorion i’r trothwyau;

5A’r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin; a’r drydedd ran wrth borth y sylfaen; a’r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr AR¬GLWYDD.

6Ac na ddeled neb i dŷ yr ARGLWYDD, ond yr offeiriaid, a’r gweinidogion o’r Lefiaid; deuant hwy i mewn, canys sanctaidd ydynt: ond yr holl bobl a gadwant wyliadwriaeth yr ARGLWYDD.

7A’r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu, pob un â’i arfau yn ei law; a phwy bynnag arall a ddelo i’r tŷ, lladder ef: ond byddwch chwi gyda’r brenin, pan ddelo efe i mewn, a phan elo efe allan.

8A’r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda’r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth: (canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau.)

9A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd, y gwaywffyn, a’r tarianau, a’r estylch, a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ DDUW.

10Ac efe a gyfleodd yr holl bobl, a phob un â’i arf yn ei law, o’r tu deau i’r tŷ hyd y tu aswy i’r tŷ, ynghylch yr allor a’r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch.

11Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a’r dystiolaeth, ac a’i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a’i feibion a’i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin.

12A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin, hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr ARGLWYDD.

13A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a’r cantorion ag offer cerdd, a’r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!

14A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o’r rhesau: a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â’r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr ARGLWYDD.

15A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua’r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.

16A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i’r AR¬GLWYDD.

17Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal, ac a’i distrywiasant ef, a’i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor.

18A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr ARGLWYDD, dan law yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr ARGLWYDD, i offrymu poethoffrymau yr ARGLWYDD, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd.

19Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll.

20Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd, a’r pendefigion, a’r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlad, ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr ARGLWYDD: a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth.

21A holl bobl y wlad a lawenychasant, a’r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaleia a’r cleddyf.

← 2 Chronicles 22Read In The App, Free →2 Chronicles 24 →

Study 2 Chronicles 23

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536