2 Chronicles 24:17
Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i’r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Judges 8:33A phan fu farw Gedeon, yna meib¬ion Israel a ddychwelasant, ac a butein¬iasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal-berith yn dduw iddynt. º
2 Chronicles 10:8Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef.
2 Chronicles 22:4Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab: canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef, ar ôl marwolaeth ei dad, i’w ddinistr ef.
Proverbs 20:19Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau.
Proverbs 26:28Y tafod celwyddog a gasa y neb a gystuddio efe; a’r genau gwenieithus a wna ddinistr.
Proverbs 29:12Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol.