Llyfr y Barnwyr 8:33
A phan fu farw Gedeon, yna meib¬ion Israel a ddychwelasant, ac a butein¬iasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal-berith yn dduw iddynt. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 34:15Rhag i ti wneuthur cyfammod â phreswylwyr y tir; ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwytta o’u haberth;
Judges 2:7A’r bobl a wasanaethasant yr AR¬GLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaethai efe er Israel.
Judges 2:19A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig.
Judges 8:27A Gedeon a wnaeth ohonynt effod, ac a’i gosododd yn ei ddinas ei hun, Of&a: a holl Israel a buteiniasant ar ei hôl hi yno: a bu hynny yn dramgwydd i Gedeon, ac i’w dŷ. º
Judges 9:27A hwy a aethant i’r meysydd, ac a gasglasant eu gwinllannoedd, ac a sangasant eu grawnwin, ac a wnaethant yn Mawen, ac a aethant i mewn i dŷ eu duw, ac a fwytasant ac a yfasant, ac a felltithiasant Abimelech. º
Judges 10:6A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr ARGLWYDD, ac ni wasanaethasant ef. º