2 Chronicles 25:23
A Jaos brenin Israel a ddaliodd Amaseia mab Joas, fab Jehoahas brenin Jwda, yn Bethsemes, ac a’i dug ef i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerw¬salem, o berth Effraim hyd borth y gongl, pedwar can cufydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22A Jwda a drawyd o flaen Israel, a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll.
Cross References
2 Chronicles 21:17A hwy a ddaethant i fyny i Jwda, ac a’i drylliasant hi, ac a gaethgludasant yr holl gyfoeth a gafwyd yn nhŷ’r brenin, a’i feibion hefyd a’i wragedd; fel na adawyd mab iddo, ond Jehoahas, yr ieuangaf o’i feibion.
2 Chronicles 22:6Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel, oherwydd yr archollion a’r rhai y trawsant ef yn Rama, pan ymladdodd efe a Hasael brenin Syria. Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel, canys claf oedd efe.
2 Chronicles 33:11Am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a’i dygasant ef i Babilon.
2 Chronicles 36:10Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor, ac a’i dug ef i Pabilon, gyda llestri dymunol tŷ yr AR¬GLWYDD: ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
Nehemiah 12:39Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea, hyd borth y defaid, a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth.
Proverbs 29:23Balchder dyn a’i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd.