The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 25

1Mab pum mlwydd ar hugain oedd Amaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jehoadan o Jerwsalem.

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid â chalon berffaith.

3A phan sicrhawyd ei deyrnas iddo ef, efe a laddodd ei weision a laddasent y brenin ei dad ef.

4Ond ni laddodd efe eu meibion hwynt, ond efe a wnaeth fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith yn llyfr Moses, lle y gorchmynasai yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Ni bydd marw y tadau dros y meibion, ac ni bydd marw y meibion dros y tadau, ond pob un a fydd marw am ei bechod ei hun.

5Ac Amaseia a gynullodd Jwda, ac a’u gwnaeth hwy, yn ôl tŷ eu tadau, yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd, trwy holl Jwda a Benjamin: ac efe a’u cyfrifodd hwynt o fab ugain mlwydd ac uchod, ac a’u cafodd hwy yn dri chan mil o wŷr etholedig yn gallu myned i ryfel, yn medru trin gwaywffon a tharian.

6Ac efe a gyflogodd o Israel gan mil o wŷr cedyrn nerthol, er can talent o arian.

7Ond gŵr Duw a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, O frenin, nac aed llu Israel gyda thi: canys nid yw yr ARGLWYDD gydag Israel, sef gyda holl feibion Effraim.

8Ond os myned a fynni, gwna, ymgadarnha i ryfel: ond Duw a wna i ti syrthio o flaen dy elynion; canys y mae gan DDUW nerth i gynorthwyo, ac i gwympo.

9Ac Amaseia a ddywedodd wrth ŵr DUW, Ond beth a wneir am y can talent a roddais i dorf Israel? A dywedodd gŵr DUW, y mae ar law yr ARGLWYDD roddi i ti lawer mwy na hynny.

10Felly Amaseia a’u neilltuodd hwynt, sef y dorf a ddaethai ato ef o Effraim, i fyned i’w mangre eu hun. A llidiodd eu digllonedd hwy yn ddirfawr yn erbyn Jwda, a dychwelasant i’w mangre eu hun mewn llid dicllon.

11y Ac Amaseia a ymgadarnhaodd, ac a dywysodd allan ei bobl, ac a aeth i ddyffryn yr halen, ac a drawodd o feibion Seir ddeng mil.

12Meibion Jwda hefyd a gaethgludasant ddeng mil yn fyw, ac a’u dygasant i ben y graig, ac a’u taflasant hwy o ben y graig, fel y drylliwyd hwynt oll.

13A’r rhyfelwyr, y rhai a ddarfuasai i Amaseia eu troi yn ôl rhag myned gydag ef i ryfel, a ruthrasant ar ddinasoedd Jwda, o Samaria hyd Beth-horon, ac a drawsant ohonynt dair mil, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr.

14Ac wedi dyfod Amaseia o ladd yr Edomiaid, efe a ddug dduwiau meibion Seir, ac a’u gosododd hwynt iddo ef yn dduwiau, ac a addolodd ger eu bron hwynt, ac a arogldarthodd iddynt.

15Am hynny y llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Amaseia; ac efe a anfonodd broffwyd ato ef, yr hwn a ddy¬wedodd wrtho ef, Paham y ceisiaist ti dduwiau y bobl, y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o’th law di?

16A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntau, A wnaed tydi yn gynghorwr i’r brenin? paid, i ba beth y’th drewid? A’r proffwyd a beidiodd, ac a ddywedodd. Mi a wn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di, am i ti wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i.

17Yna Amaseia brenin Jwda a ymgynghorodd, ac a anfonodd at Joas mab Jehoahas mab Jehu brenin Israel, gan ddywedyd. Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd.

18A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden sydd yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig: a bwystfil y maes, yr hwn oedd yn Libanus, a dramwyodd, ac a sathrodd yr ysgellyn.

19Dywedaist, Wele, trewaist yr Edom¬iaid, a’th galon a’th ddyrchafodd i ymffrostio; eistedd yn awr yn dy dŷ, paham yr wyt yn ymyrryd er drwg i ti dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?

20Ond ni wrandawai Amaseia; canys oddi wrth DDUW yr oedd hynny, fel y rhoddid hwynt yn llaw y gelyn, am iddynt geisio duwiau Edom.

21Felly Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Bethsemes, yr hon oedd yn Jwda.

22A Jwda a drawyd o flaen Israel, a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll.

23A Jaos brenin Israel a ddaliodd Amaseia mab Joas, fab Jehoahas brenin Jwda, yn Bethsemes, ac a’i dug ef i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerw¬salem, o berth Effraim hyd borth y gongl, pedwar can cufydd.

24Ac efe a gymerth yr holl aur, a’r arian, a’r holl lestri a gafwyd yn nhŷ DDUW gydag Obed-edom, a thrysorau tŷ y brenin, a’r gwystlon hefyd, ac a ddychwelodd i Samaria.

25Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw, wedi marwolaeth Joas mab Jehoahas brenin Israel, bymtheng mlynedd.

26A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Amaseia, wele, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel?

27Ac wedi’r amser yr ymadawodd Amaseia oddi ar ôl yr ARGLWYDD, hwy a fradfwriadasant fradwriaeth yn ei erbyn ef yn Jerwsalem, ac efe a ffodd i Lachis: ond hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno.

28A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Jwda.

← 2 Chronicles 24Read In The App, Free →2 Chronicles 26 →

Study 2 Chronicles 25

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536