2 Chronicles 26:8
A’r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia: a’i enw ef a aeth hyd y mynediad i’r Aifft; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 12:2A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
Deuteronomy 2:19A phan ddelech di gyferbyn â meibion Ammon, na orthrymma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.
1 Samuel 11:1YNA Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fyny, ac a wersyllodd yn erbyn Jabes Gilead: a holl wŷr Jabes a ddy¬wedasant wrth Nahas, Gwna gyfamod â ni, ac ni a’th wasanaethwn di. º
2 Samuel 8:13A Dafydd a enillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymtheg. º
1 Chronicles 14:17Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wiedydd; a’r ARGLWYDD a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.
2 Chronicles 20:1Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant, a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid, yn erbyn Jehosaffat, i ryfel.