Llyfr Genesis 12:2
A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 13:16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
Genesis 15:5Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly, y bydd dy had di.
Genesis 17:20Am Ismael hefyd y’th wrandewais: wele, mi a’i bendithiais ef, a mi a’i ffrwythlonaf ef, ac a’i llïosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
Genesis 19:29¶ A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinystr, pan ddinystriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.
Genesis 22:18Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrandaw o honot ar fy llais i.
Genesis 24:35A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynnyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morwynion, a chamelod, ac asynod.