2 Chronicles 28:5
Am hynny yr ARGLWYDD ei DDUW a’i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria; a hwy a’i trawsant ef, ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a’u dygasant i Damascus. Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a’i trawodd ef a lladdfa fawr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 20:2Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
2 Kings 16:5Yna y daeth Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia brenin Israel, i fyny i Jerwsalem i ryfel; a hwy a warchaeasant ar Ahas; ond ni allasant hwy ei orchfygu ef. º
2 Chronicles 29:9Canys wele, ein tadau ni a syrthiasant trwy’r cleddyf, ein meibion hefyd, a’n merched, a’n gwragedd, ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn.
2 Chronicles 36:5Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW.
Isaiah 7:1A bu yn nyddiau Ahas mab Jotham, mab Usseia brenin Jwda, ddyfid o Resin brenin Syria, a Pheca mab Rema¬leia, brenin Israel; i fyny tua Jerwsalem, i ryfela arni: ond ni allodd ei gorchfygu.
Ezekiel 16:57Cyn datguddio dy ddrygioni, megis yn amser dy waradwydd gan ferched Syria, a'r holl rai o'i harngylch, merched y Philistiaid, y rhai a'th ddiystyrant o bob parth.