The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 28

1Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ond ni wnaeth ele yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad.

2Eithr efe a rodiodd yn ffyrdd brenhinoedd Israel, ac a wnaeth i Baalim ddelwau toddedig.

3Ac efe a arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac a losgodd ei blant yn tân, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

4Efe a aberthodd hefyd, ac a arogl¬darthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.

5Am hynny yr ARGLWYDD ei DDUW a’i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria; a hwy a’i trawsant ef, ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a’u dygasant i Damascus. Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a’i trawodd ef a lladdfa fawr.

6Canys Peca mab Remaleia a laddodd yn Jwda chwech ugain mil mewn un diwrnod, hwynt oll yn feibion grymus: am wrthod ohonynt ARGLWYDD DDUW eu tadau.

7A Sichri, gŵr grymus o Effraim, a laddodd Maaseia mab y brenin, ac Asricam llywodraethwr y tŷ, ac Eicana y nesaf at y brenin.

8A meibion Israel a gaethgludasant o’u brodyr ddau can mil, yn wragedd, yn feibion, ac yn ferched, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr oddi arnynt, ac a ddygasant yr ysbail i Samaria.

9Ac yno yr oedd proffwyd i’r AR¬GLWYDD, a’i enw Oded; ac efe a aeth allan o flaen y llu oedd yn dyfod i Samaria, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, oherwydd digofaint ARGLWYDD DDUW eich tadau yn erbyn Jwda, y rhoddodd efe hwynt yn eich llaw chwi, a lladdasoch hwynt mewn cynddaredd yn cyrhaeddyd hyd y nefoedd.

10Ac yn awr yr ydych chwi yn amcanu darostwng meibion Jwda a Jerwsalem yn gaethweision, ac yn gaethforynion i chwi: onid oes gyda chwi, ie, gyda chwi, bechodau yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw?

11Yn awr gan hynny gwrandewch arnaf fi, a gollyngwch adref y gaethglud a gaethgludasoch o’ch brodyr: oblegid y mae llidiog ddigofaint yr ARGLWYDD arnoch chwi.

12Yna rhai o benaethiaid meibion Effraim, Asareia mab Johanan, Berecheia mab Mesilemoth, a Jehisceia mab Salum, ac Amasa mab Hadlai, a gyfodasant yn erbyn y rhai oedd yn dyfod o’r filwriaeth,

13Ac a ddywedasant wrthynt, Ni ddygwch y gaethglud yma: canys gan i ni bechu eisoes yn erbyn yr ARGLWYDD, yr ydych chwi yn am canu chwanegu ar ein pechodau ni, ac ar ein camweddau: canys y mae ein camwedd ni yn fawr, ac y mae digofaint llidiog yn erbyn Israel.

14Felly y llu a adawodd y gaethglud a’r anrhaith o flaen y tywysogion, a’r holl gynulleidfa.

15A’r gwŷr, y rhai a enwyd wrth eu henwau, a gyfodasant ac a gymerasant y gaethglud, ac a ddilladasant eu holl rai noethion hwynt a’r ysbail, a dilladasant hwynt, a rhoddasant iddynt esgidiau, ac a wnaethant iddynt fwyta ac yfed; eneiniasant hwynt hefyd, a dygasant ar asynnod bob un llesg, ie, dygasant hwynt i Jericho, dinas y palmwydd, at eu brodyr. Yna hwy a ddychwelasant i Samaria.

16Yr amser hwnnw yr anfonodd y brenin Ahas at frenhinoedd Asyria i’w gynorthwyo ef.

17A’r Edomiaid a ddaethent eto, ac a drawsent Jwda, ac a gaethgludasent gaethglud.

18Y Philistiaid hefyd a ruthrasent a ddinasoedd y gwastadedd, a thu deau Jwda, ac a enillasent Beth-semes, ac Ajalon, a Gederoth, a Socho a’i phentrefi, Timna hefyd a’i phentrefi, a Gimso a’i phentrefi; ac a drigasant yno.

19Canys yr ARGLWYDD a ddarostyngodd Jwda, o achos Ahas brenin Israel: oblegid efe a noethodd Jwda, gan droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD yn ddirfawr.

20A Thilgath-pilneser brenin Asyria a ddaeth ato ef, ac a gyfyngodd arno ef, ac nis cynorthwyodd ef.

21Er i Ahas gymryd rhan allan o dŷ yr ARGLWYDD, ac o dŷ y brenin, a chan y tywysogion, a’i rhoddi i frenin Asyria; eto nis cynorthwyodd efe ef.

22A’r amser yr oedd yn gyfyng arno, efe a chwanegodd droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD: hwn yw y brenin Ahas.

23Canys efe a aberthodd i dduwiau Damascus, y rhai a’i trawsent ef; ac efe a ddywedodd. Am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cynorthwyo hwynt, minnau a aberthaf iddynt hwy, fel y’m cynorthwyont innau: ond hwy a fuant iddo ef ac i holl Israel yn dramgwydd.

24Ac Ahas a gasglodd lestri tŷ DDUW, ac a ddarniodd lestri tŷ DDUW, ac a gaeodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD, ac a wnaeth iddo allorau ym mhob congl i Jerwsalem.

25Ac ym mhob dinas yn Jwda y gwnaeth efe uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr, ac a ddicllonodd AR¬GLWYDD DDUW ei dadau.

26A’r rhan arall o’i hanes ef, a’i holl ffyrdd, cyntaf a diwethaf, wele hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

27Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn y ddinas ya Jerwsalem, ond ni ddygasant hwy efi feddrod brenhinoedd Israel. A Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

← 2 Chronicles 27Read In The App, Free →2 Chronicles 29 →

Study 2 Chronicles 28

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536