2 Chronicles 29:22
Felly hwy a laddasant y bustych, a’r offeiriaid a dderbyniasant y gwaed, ac a’i taenellasant ar yr allor: lladdasant hefyd yr hyrddod, a thaenellasant y gwaed ar yr allor: a hwy a laddasant yr ŵyn, ac a daenellasant y gwaed ar yr allor.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 1:5Lladded hefyd yr eidion ger bron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Leviticus 4:18A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poeth-offrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Leviticus 8:14Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylaw ar ben bustach yr aberth dros bechod;
Leviticus 8:24Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o’r gwaed ar gwrr isaf eu clust ddehau, ac ar fawd eu llaw ddehau, ac ar fawd eu troed dehau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.