Llyfr Lefiticus 1:5
Lladded hefyd yr eidion ger bron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6A blinged y poeth-offrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.
Cross References
Exodus 29:16A lladd yr hwrdd; a chymmer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch.
Leviticus 1:11A lladded ef ger bron yr Arglwydd, o du y gogledd i’r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch.
Leviticus 3:2A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch.
Leviticus 3:13A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.
Leviticus 16:15¶ Yna lladded fwch y pech-aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed â’i waed megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa:
2 Chronicles 29:22Felly hwy a laddasant y bustych, a’r offeiriaid a dderbyniasant y gwaed, ac a’i taenellasant ar yr allor: lladdasant hefyd yr hyrddod, a thaenellasant y gwaed ar yr allor: a hwy a laddasant yr ŵyn, ac a daenellasant y gwaed ar yr allor.