2 Chronicles 30:12
Llaw Duw hefyd fu yn Jwda, i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a’r tywysogion, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11Er hynny gwŷr o Aser, a Manasse., ac o Sabulon, a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerwsalem.
Cross References
Deuteronomy 4:2Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihêwch ddim o hono ef, gan gadw gorchymynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi.
1 Chronicles 29:18ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragy¬wydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti. º
2 Chronicles 29:25Ac efe a osododd y Lefiaid yn nhŷ yr ARGLWYDD, â symbalau, ac â nablau, ac â thelynau, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd: canys y gorchymyn oedd trwy law yr ARGLWYDD) trwy law ei broffwydi ef.
Ezra 7:27Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn yng nghalon y brenin, i harddu tŷ yr ARGLWYDD yr hwn sydd yn Jerwsalem:
Jeremiah 24:7Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr ARGLWYDD ydwyf fi: a, hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy: canys hwy-a droant ataf fi a’u holl galon. º
Ezekiel 36:26A rhoddaf i chwi galon newydd» ysbryd newydd hefyd a roddaf o'ch mewa chwi; a thynnafy galon garreg o'ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig.