The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 30

1A Heseceia a anfonodd at holl Israel a Jwda, ac a ysgrifennodd lythyrau hefyd at Effraim a Manasse, i ddyfod i dŷ yr ARGLWYDD i Jerwsalem i gynnal Pasg i ARGLWYDD DDUW Israel.

2A’r brenin a ymgynghorodd, a’i dywysogion, a’r holl gynulleidfa, yn Jerwsalem, am gynnal y Pasg yn yr ail fis.

3Canys ni allent ei gynnal ef y pryd hwnnw; oblegid nid ymsancteiddiasai yr offeiriaid ddigon, ac nid ymgasglasai y bobl i Jerwsalem.

4A da oedd y peth yng ngolwg y brenin, ac yng ngolwg yr holl gynulleidfa.

5A hwy a orchmynasant gyhoeddi trwy holl Israel, o Beerseba hyd Dan, am ddy¬fod i gynnal y Pasg i ARGLWYDD DDUW Israel yn Jerwsalem: canys ni wnaethent er ys talm fel yr oedd yn ysgrifenedig.

6Felly y rhedegwyr a aethant â’r llythyrau o law y brenin a’i dywysogion trwy holl Israel a Jwda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, O feibion Israel, dychwelwch at ARGLWYDD DDUW Abra¬ham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria.

7Ac na fyddwch fel eich tadau, nac fel.eich brodyr, y rhai a droseddasant yn erbyn ARGLWYDD DDUW eu tadau; am hynny efe a’u rhoddodd hwynt yn anghyfannedd, megis y gwelwch chwi.

8Yn awr na chaledwch eich gwar, fel eich tadau; rhoddwch law i’r ARGLWYDD, a deuwch i’w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd: a gwasanaethwch yr AR¬GLWYDD eich Duw, fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi.

9Canys os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD, eich brodyr chwi a’ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a’u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i’r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr ARGLWYDD eich Duw, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwel¬wch ato ef.

10Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse, hyd Sabulon: ond hwy a wawdiasant, ac a’u gwatwarasant hwy.

11Er hynny gwŷr o Aser, a Manasse., ac o Sabulon, a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerwsalem.

12Llaw Duw hefyd fu yn Jwda, i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a’r tywysogion, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

13A phobl lawer a ymgasglasant i Jerwsalem, i gynnal gŵyl y bara croyw, yn yr ail fis; cynulleidfa fawr iawn.

14A hwy a gyfodasant, ac a fwriasant ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem: bwriasant ymaith allorau yr arogldarth, a thaflasant hwynt i afon Cidron.

15Yna y lladdasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis: yr offeir¬iaid hefyd a’r Lefiaid a gywilyddiasant, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddygasant y poethoffrymau i dŷ yr ARGLWYDD.

16A hwy a safasant yn eu lle, wrth eu harfer, yn ôl cyfraith Mo ses gŵr Duw: yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid.

17Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa:y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan, i’w sancteiddio i’r ARGLWYDD.

18Oherwydd llawer o’r bobl, sef llawer o Effraim a Manasse, Issachar, a Sabulon, nid ymlanhasent; eto hwy a fwytasant y Pasg, yn amgenach nag yr oedd yn ysgrif¬enedig. Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD daionus a faddeuo i bob un

19A baratodd ei galon i geisio Duw, gef ARGLWYDD DDUW ei dadau, er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr.

20A’r ARGLWYDD a wrandawodd ar Heseceia, ac a iachaodd y pobl.

21A meibion Israel, y rhai a gafwyd yn Jerwsalem, a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr: y Lefiaid hefyd a’r offeiriaid oedd yn moliannu yr ARGLWYDD o ddydd i ddydd, gan ganu ag offer soniarus i’r ARGLWYDD.

22A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr ARGLWYDD; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i ARGLWYDD DDUW eu tadau.

23A’r holl gynulleidfa a ymgyngorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill: felly y cynaliasant saith o ddyddiau eraill trwy lawenydd.

24Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i’r gynulleidfa fil o fustych, a saith mil o ddefaid: a’r tywysogion a roddasant i’r gynulleidfa fil o fustych, a deng mil o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant.

25A holl gynulleidfa Jwda a lawenychasant, gyda’r offeiriaid a’r Lefiaid, a’r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, a’r dieithriaid a ddaethai o wlad Israel, ac oeddynt yn gwladychu yn Jwda.

26Felly y bu llawenydd mawr yn Jerwsalem: canys er dyddiau Solomon mab Dafydd brenin Israel ni bu y cyffelyb yn Jerwsalem.

27Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid a gyfodasant, ac a fendithiasant y bobl, a gwrandawyd ar eu llef hwynt, a’u gweddi hwynt a ddaeth i fyny i’w breswylfa sanctaidd ef, i’r nefoedd.

← 2 Chronicles 29Read In The App, Free →2 Chronicles 31 →

Study 2 Chronicles 30

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536