2 Chronicles 30:18
Oherwydd llawer o’r bobl, sef llawer o Effraim a Manasse, Issachar, a Sabulon, nid ymlanhasent; eto hwy a fwytasant y Pasg, yn amgenach nag yr oedd yn ysgrif¬enedig. Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD daionus a faddeuo i bob un
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 20:17¶ Yna Abraham a weddïodd ar Dduw: a Duw a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forwynion; a hwy a blantasant.
Exodus 34:6A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;
Numbers 9:7A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorph dyn marw: paham y’n gwaherddir rhag offrymmu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymmor ym mysg meibion Israel?
Numbers 14:18Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddeu anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhâu ni chyfiawnhâ efe yr euog; ymweled y mae âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.
2 Kings 5:18Yn y peth hyn yr ARGLWYDD a faddeuo i’th was; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a phwyso ar fy llaw i, a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued yr ARGLWYDD i’th was yn y peth hyn.
2 Chronicles 30:11Er hynny gwŷr o Aser, a Manasse., ac o Sabulon, a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerwsalem.