2 Chronicles 30:22
A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr ARGLWYDD; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i ARGLWYDD DDUW eu tadau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 26:3A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddyw i’r Arglwydd dy Dduw, fy nyfod i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar ei roddi i ni.
2 Chronicles 15:3Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir DDUW, a heb offeiriad yn ddysgawdwr, a heb gyfraith.
2 Chronicles 32:6Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl, ac a’u casglodd hwynt ato i heol porth y ddinas, ac a lefarodd wrth fodd eu calon hwynt, gan ddywedyd,
Ezra 7:10Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr ARGLWYDD, ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.
Ezra 10:11Ac yn awr rhoddwch foliant i ARGLWYDD DDUW eich tadau, a gwnewch ei ewyllys ef; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.
Nehemiah 8:18Ac Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith DDUW beunydd, o’r dydd cyntaf hyd y dydd diwethaf. A hwy a gynallasant yr ŵyl saith niwrnod; ac ar yr wythfed dydd y bu cymanfa, yn ôl y ddefod.