2 Chronicles 32:23
A llawer a ddygasant roddion i’r ARGLWYDD i Jerwsalem, a phethau gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda; fel y dyrchafwyd, ef o hynny allan yng ngŵydd yr holl genhedloedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Samuel 8:10Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd, i gyfarch gwell iddo ac i’w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser, a’i faeddu ef; (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres ganddo: º
1 Kings 10:10A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amied a’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon. º
1 Chronicles 29:25A’r ARGLWYDD a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogomant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o’i flaen ef yn Israel. º
2 Chronicles 9:9A hi a roddodd i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ac ni bu y fath beraroglau â’r rhai a roddodd bren¬hines Seba i’r brenin Solomon.
2 Chronicles 17:5Am hynny yr ARGLWYDD a sicrhaodd y frenhiniaeth yn ei law ef; a holl Jwda a roddasant anrhegion i Jehosaffat; ac yr ydoedd iddo olud ac anrhydedd yn helaeth.
Ezra 7:15Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i DDUW Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem,