2 Chronicles 32:26
Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon, efe a thrig¬olion Jerwsalem; ac ni ddaeth digofaint yr ARGLWYDD arnynt yn nyddiau Heseceia.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:40Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio o honynt yn y gwrthwyneb i mi,
1 Kings 21:29Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dy ef.
2 Kings 22:19Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr ARGLWYDD, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr ARGLWYDD. º
2 Chronicles 33:12A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau,
2 Chronicles 33:23Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr ARGLWYDD, fel yr ymostyngasai Man¬asse ei dad ef: eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy.
2 Chronicles 34:28Wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir ymaith i’r bedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr. Felly hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.