2 Chronicles 33:12
A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 10:3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
Deuteronomy 4:30Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diweddaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef:
2 Chronicles 15:2Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr AR¬GLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau.
2 Chronicles 28:5Am hynny yr ARGLWYDD ei DDUW a’i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria; a hwy a’i trawsant ef, ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a’u dygasant i Damascus. Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a’i trawodd ef a lladdfa fawr.
2 Chronicles 32:26Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon, efe a thrig¬olion Jerwsalem; ac ni ddaeth digofaint yr ARGLWYDD arnynt yn nyddiau Heseceia.
2 Chronicles 33:23Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr ARGLWYDD, fel yr ymostyngasai Man¬asse ei dad ef: eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy.