2 Chronicles 33:4
Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr ARGLWYDD, am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD, Yn Jerwsalem y bydd fy enw i yn dragywydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD.
Cross References
1 Kings 8:29Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd, tua’r lle y dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn. º
2 Kings 16:11Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus: felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus. º
2 Kings 21:4Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr ARGLWYDD, am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD, Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw. º
2 Chronicles 6:6Ond mi a etholais Jerwsalem, i fod fy enw yno; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel.
2 Chronicles 32:19A hwy a ddywedasant yn erbyn Duw Jerwsalem fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlad, sef gwaith dwylo dyn.
2 Chronicles 34:3Canys yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad, tra yr ydoedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio DUW Dafydd ei dad: ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchel¬feydd, a’r llwyni, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau.toddedig.