2 Chronicles 34:3
Canys yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad, tra yr ydoedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio DUW Dafydd ei dad: ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchel¬feydd, a’r llwyni, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau.toddedig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 13:2Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogl-darthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti. º
2 Kings 18:4Efe a dynnodd ymaith yr uchel¬feydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a’i galwodd hi Nehustan. º
2 Kings 23:4A’r brenin a orchmynnodd i Hiloeia yr archoffeiriad, ‘ae i’r offeiriaid o’r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allatt o deml yr ARGLWYDD yr holl lestri a wnaethid i Baal, ac i’r llwyn, ac i holl ru’r nefoedd: ac efe a’u llosgodd hwynt o’r tu allan i Jerwsalem, ym meysydd Cidron; ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel. º
1 Chronicles 22:5A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a’r tŷ a adeiledir i’r ARGLWYDD, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wiedydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratodd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth. º
1 Chronicles 29:1YNA y dywedodd Dafydd y brenhin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a’r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i’r ARGLWYDD DDUW. º
2 Chronicles 15:2Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr AR¬GLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau.