2 Chronicles 34:12
A’r gwŷr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon: ac arnynt hwy yn olygwyr yr oedd Jahath, ac Obadeia, y Lefiaid, o feibion Merari; a Sechareia, a Mesulam, o feibion y Cohathiaid, i’w hannog: ac o’r Lefiaid, pob un a oedd gyfarwydd ar offer cerdd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Kings 12:15Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i’w rhoddi i weithwyr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon. º
1 Chronicles 6:31Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar ôl gorffwys o’r arch.
1 Chronicles 16:4Ac efe a osododd gerbron arch yr ARGLWYDD weimdogion o’r Lefiaid; i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori AR¬GLWYDD DDUW Israel. º
1 Chronicles 23:5A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr ARGLWYDD a’r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu. º
1 Chronicles 25:7A’u nifer hwynt, ynghyd â’u brodyr dysgedig yng nghaniadau yr ARGLWYDD, sef pob un cyfarwydd, oedd ddau cant pedwar ugain ac wyth. º
Ezra 3:9Yna y safodd Jesua, a’i feibion a’l frodyr, Cadmiel a’i feibion, meibion Jwda yn gytûn, i oruchwylio ar weithwyr y gwaith yn nhŷ DDUW: meibion Henadad, â’u meibion hwythau a u brodyr y Lefiaid.