The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 34

1Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni ogwyddodd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.

3Canys yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad, tra yr ydoedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio DUW Dafydd ei dad: ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchel¬feydd, a’r llwyni, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau.toddedig.

4Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a’r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a’r delwau cerfiedig, a’r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy.ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.

5Ac esgyrn yr offeiriaid a losgodd efe ar eu hallorau, ac a lanhaodd Jwda a Jerwsalem.

6Felly y gwnaeth.efe yn ninasoedd Manasse, ac Effraim, a Simeon, a hyd Nafftali, â’u ceibiau oddi amgylch.

7A phan ddinistriasai efe yr allorau a’r llwyni, a dryllio ohono y delwau cerfiedig, gan eu malurio yn llwch, a thorri yr eilunod i gyd trwy holl wlad Israel, efe a ddychwelodd i Jerwsalem.

8Ac yn y ddeunawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, wedi glanhau y wlad, a’r tŷ, efe a anfonodd Saffan mab Asaleia, a Maaseia tywysog y ddinas, a Joa mab Joahas y cofiadur, i gyweirio tŷ yr AR¬GLWYDD ei DDUW.

9A phan ddaethant hwy at Hilceia yr archoffeiriad, hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ DDUW, y rhai a gasglasai y Lefiaid oedd yn cadw y drysau, o law Manasse ac Effraim, ac oddi gan holl weddill Israel, ac oddi ar holl Jwda a Benjamin, a hwy a ddychwelasant i Jerwsalem.

10A hwy a’i rhoddasant yn llaw y gweithwyr, y rhai oedd oruchwylwyr ar dŷ yr ARGLWYDD: hwythau a’i rhoddasant i wneuthurwyr y gwaith, y rhai oedd yn gweithio yn nhŷ yr ARGLWYDD, i gyweirio ac i gadarnhau y tŷ.

11Rhoddasant hefyd i’r seiri ac i’r adeiladwyr, i brynu cerrig nadd, a choed tuag at y cysylltiadau, ac i fyrddio y tai a ddinistriasai brenhinoedd Jwda.

12A’r gwŷr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon: ac arnynt hwy yn olygwyr yr oedd Jahath, ac Obadeia, y Lefiaid, o feibion Merari; a Sechareia, a Mesulam, o feibion y Cohathiaid, i’w hannog: ac o’r Lefiaid, pob un a oedd gyfarwydd ar offer cerdd.

13Yr oeddynt hefyd ar y cludwyr, ac yn olygwyr ar yr holl rai oedd yn gweithio ym mhob rhyw waith: ac o’r Lefiaid yr oedd ysgrifenyddion, a swyddogion, a phorthorion.

14A phan ddygasant hwy allan yr arian a ddygasid i dŷ yr ARGLWYDD, Hilceia yr offeiriad a gafodd lyfr cyfraith yr ARGLWYDD, yr hwn a roddasid trwy law Moses.

15A Hilceia a atebodd ac a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr ARGLWYDD. A Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan:

16A Saffan a ddug y llyfr at y brenin, ac a ddug air drachefn i’r brenin, gan ddywedyd, Yr hyn oll a roddwyd yn llaw dy weision di, y maent hwy yn ei wneuthur.

17Casglasant hefyd yr arian a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a rhoddasant hwynt yn llaw y golygwyr, ac yn llaw y gweithwyr.

18Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd hefyd i’r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr. A Saffan a ddarllenodd ynddo ef gerbron y brenin.

19A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.

20A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Abdon mab Micha, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaia gwas y brenin, gan ddywedyd,

21Ewch, ymofynnwch â’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr ARGLWYDD, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

22Yna yr aeth Hilceia, a’r rhai a yrrodd y brenin, at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfath, fab Hasra, ceidwad y gwisgoedd; (a hi oedd yn aros yn Jerwsalem yn yr ysgoldy;) ac a ymddiddanasant â hi felly.

23A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi,

24Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef yr holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenasant hwy gerbron brenin Jwda:

25Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i holl waith eu dwylo; am hynny yr ymdywallt fy llid i ar y lle hwn, ac nis diffoddir ef.

26Ond am frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymofyn a’r ARGLWYDD, fel hyn y dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel am y geiriau a glywaist;

27Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen Duw, pan glyw¬aist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o’m blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr ARGLWYDD.

28Wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir ymaith i’r bedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr. Felly hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.

29Yna y brenin a anfonodd, ac a gynullodd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem.

30A’r brenin a aeth i fyny i dŷ yr AR¬GLWYDD, a holl wŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem, yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid, a’r holl bobl o fawr i fychan; ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr ARGLWYDD.

31A’r brenin a safodd yn ei le, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr ARGLWYDD, ar rodio ar ôl yr ARGLWYDD, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddefodau, â’i holl galon, ac â’i holl enaid; i gwblhau geiriau y cyfamod y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwnnw.

32Ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Jerwsalem, ac yn Benjamin, sefyll wrth yr amod: trigolion Jerwsalem hefyd a wnaethant yn ôl cyfamod Duw, sef Duw eu tadau.

33Felly Joseia a dynnodd ymaith y ffieidd-dra i gyd o’r holl wledydd y rhai oedd eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb a’r a gafwyd yn Israel wasanaethu, sef gwasanaethu yr AR¬GLWYDD eu Duw. Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl ARGLWYDD DDUW eu tadau.

← 2 Chronicles 33Read In The App, Free →2 Chronicles 35 →

Study 2 Chronicles 34

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536