2 Chronicles 34:14
A phan ddygasant hwy allan yr arian a ddygasid i dŷ yr ARGLWYDD, Hilceia yr offeiriad a gafodd lyfr cyfraith yr ARGLWYDD, yr hwn a roddasid trwy law Moses.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 10:11Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses.
Deuteronomy 17:18A phan eisteddo ar deyrn-gadair ei frenhiniaeth, ysgrifened iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan o’r hwn sydd ger bron yr offeiriaid y Lefiaid.
Joshua 1:8Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ol yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.
2 Chronicles 12:1Ac wedi i Rehoboam sicrhau y fren¬hiniaeth, a’i chadarnhau, efe a wrthododd gyfraith yr ARGLWYDD, a holl Israel gydag ef.
2 Chronicles 34:9A phan ddaethant hwy at Hilceia yr archoffeiriad, hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ DDUW, y rhai a gasglasai y Lefiaid oedd yn cadw y drysau, o law Manasse ac Effraim, ac oddi gan holl weddill Israel, ac oddi ar holl Jwda a Benjamin, a hwy a ddychwelasant i Jerwsalem.
Ezra 7:10Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr ARGLWYDD, ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.