2 Chronicles 34:21
Ewch, ymofynnwch â’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Jwda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD a dywalltodd efe arnom ni, oblegid na chadwodd ein tadau ni air yr ARGLWYDD, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 18:15A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod attaf i ymgynghori â Duw.
Deuteronomy 28:15¶ A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchymynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; y daw arnat yr holl felldithion hyn, ac y’th oddiweddant.
Deuteronomy 30:17Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a’th yrru i ymgrymmu i dduwiau dïeithr, a’u gwasanaethu hwynt;
Deuteronomy 32:15¶ A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddïystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.
1 Kings 22:5Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw a gair yr ARGLWYDD. º
2 Kings 22:13Ewch, ymofynnwch a’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y bobl, a thros holl Jwda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni, oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni. º