2 Chronicles 34:24
Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef yr holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr a ddarllenasant hwy gerbron brenin Jwda:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:14¶ Ond os chwi ni wrandêwch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchymynion hyn;
Deuteronomy 28:15¶ A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchymynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; y daw arnat yr holl felldithion hyn, ac y’th oddiweddant.
2 Kings 21:12Oblegid hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a’i clywant. º
2 Chronicles 36:14Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd, a’r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem.
2 Chronicles 36:19A hwy a losgasant dŷ DDUW, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a’i holl balasau hi a losgasant hwy a thân, a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant.
Isaiah 5:4Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion?