2 Chronicles 4:19
A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ DDUW, a’r allor aur, a’r byrddau oedd a’r bara gosod arnynt,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y pres.
20A’r canwyllbrennau, a’u lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pur;
Cross References
Exodus 25:23¶ A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hŷd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.
Exodus 37:25¶ Gwnaeth hefyd allor yr arogl-darth o goed Sittim: o gufydd ei hŷd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o’r un.
1 Kings 7:48A Solomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynai i dŷ yr ARGLWYDD; yr allor aur, a’r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno;
2 Kings 25:13Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon. º
2 Chronicles 2:3A Solomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus, gan ddywedyd, Megis y gwnaethost a Dafydd fy nhad, ac yr anfonaist iddo gedrwydd i adeiladu iddo dŷ i drigo ynddo, felly gwna a minnau.
2 Chronicles 26:16Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i’w ddinistr ei hun; canys efe a droseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD ei DDUW: ac efe a aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD i arogldarthu ar allor yr arogldarth.