The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 4

1Ac efe a wnaeth allor bres, o ugain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei lled, a deg cufydd ei huchder.

2Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder, a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch.

3A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch, mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi am¬gylch: dwy res o ychen oedd wedi eu toddi, pan doddwyd yntau.

4Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewin, a thri yn edrych tua’r deau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r môr arnynt oddi arnodd, a’u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn.

5A’i dewder oedd ddyrnfedd, a’i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, â blodau lili; a thair mil o bathau a dderbyniai, ac a ddaliai.

6Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i’r offeiriaid i ymolchi ynddo.

7Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy.

8Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a’u gosododd yn y deml, pump o’r tu deau, a phump o’r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.

9Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a’r cyntedd mawr, a dorau i’r cynteddoedd; a’u dorau hwynt a wisgodd efe â phres.

10Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau, tua’r dwyrain, ar gyfer y deau.

11Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon i dŷ DDUW:

12Y ddwy golofn, a’r cnapiau, a’r coronau ar ben y ddwy golofn, a’r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog, y rhai oedd ar ben y colofnau:

13A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy res oedd o bom¬granadau ar bob pleth, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau.

14Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaeth noeau ar yr ystolion;

15Un môr, a deuddeg o ychen dano:

16Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r cigweiniau, a’u holl lestri hwynt, a wnaeth Hiram ei dad i’r brenin Solomon, yn nhŷ yr ARGLWYDD, o bres gloyw.

17Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt, mewn cleidir, rhwng Succoth a Seredatha.

18Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y pres.

19A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ DDUW, a’r allor aur, a’r byrddau oedd a’r bara gosod arnynt,

20A’r canwyllbrennau, a’u lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pur;

21Y blodau hefyd, a’r lampau, a’i gefeiliau, oedd aur, a hwnnw yn aur perffaith.

22Y saltringau hefyd,.a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thuserau, oedd aur pur: a drws y tŷ, a’i ddorau, o du mewn y cysegr sancteiddiolaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.

← 2 Chronicles 3Read In The App, Free →2 Chronicles 5 →

Study 2 Chronicles 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536