2 Chronicles 5:2
Yna y cynullodd Solomon henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, pennau-cenedl meibion Israel, i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Am hynny holl wŷr Israel a ymgynullasant at y brenin ar yr ŵyl oedd yn y seithfed mis.
Cross References
Numbers 10:33¶ A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfammod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orphwysfa iddynt.
2 Samuel 5:7Ond Dafydd a enillodd amddinynfa Seion: honno yw dinas Dafydd.
1 Kings 8:1Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Isreal, at at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion. º
1 Chronicles 15:3A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr ARGLWYDD i’w lle a baratoesai efe iddi hi. º
1 Chronicles 15:25Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr AR¬GLWYDD o dŷ Obededom mewn llawenydd. º
1 Chronicles 24:6A Semaiah mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a’u hysgrifennodd hwynt ger bron y brenhin, a’r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abïathar, a phen-cenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleazar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar. º