2 Chronicles 6:32
Ac am y dieithrddyn hefyd, yr hwn ni byddo o’th bobl di Israel, ond wedi dyfod o wlad bell, er mwyn dy enw mawr, a’th law gadarn, a’th fraich estynedig; os deuant a gweddïo yn y tŷ hwn:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 12:48A phan arhoso dïeithr gyd â thi, ac ewyllysio cadw Pasc i’r Arglwydd, enwaeder ei holl wrrywiaid ef, ac yna nesâed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwyttâed neb dïenwaededig o hono.
Exodus 18:8A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharaoh ac i’r Aiphtiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt.
Joshua 9:9A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, o herwydd enw yr Arglwydd dy Dduw: canys ni a glywsom ei glod ef, a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aipht;
Ruth 2:11A Boas a atebodd, aca ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen.
1 Kings 10:1Aphan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr ARGLWYDD, hi- — oolomon am enw yr -—., w, m a ddaeth i’w brofi ef a chwestiynau caled. º
2 Kings 5:8A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y brenin, gan ddywedyd, Paham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr ataf fi, ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel.