Llyfr Exodus 18:8
A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharaoh ac i’r Aiphtiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 44:34Oblegid pa fodd yr âf i fynu at fy nhad, a’r llangc heb fod gyd â mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.
Exodus 15:6Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth; a’th ddeheulaw, Arglwydd, a ddrylliodd y gelyn.
Exodus 15:22Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.
Exodus 18:1Jethro yn ymadael. Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aipht;
Numbers 20:14¶ A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenhin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:
Nehemiah 9:32Ac yn awr, O ein DUW ni, y DUW mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn wyt yn cadw cyfamod a thrugaredd; na fydded bychan o’th flaen di yr holl flinder a ddigwyddodd i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n hoffeiriaid, ac i’n proffwydi, ac i’n tadau, ac i’th holl bobi, er dyddiau brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.