2 Chronicles 7:14
Os fy mhobl, y rhai y gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant, ac a weddïant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant o’u ffyrdd drygionus: yna y gwrandawaf o’r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachaf eu gwlad hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15Yn awr fy llygaid a fyddant yn agored, a’m clustiau yn ymwrando a’r weddi a wneir yn y fan hon.
Cross References
Leviticus 26:40Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio o honynt yn y gwrthwyneb i mi,
Deuteronomy 4:29Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid.
2 Chronicles 6:27Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, pan ddysgech iddynt dy ffordd dda yr hon y rhodient ynddi; a dyro law ar dy wlad a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.
2 Chronicles 6:37Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac ymbil â thi yng ngwlad eu caethiwed, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom, a gwnaethom yn annuwiol;
2 Chronicles 20:4A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr ARGLWYDD: canys hwy a ddaethant holl ddinasoedd Jwda i geisio’r ARGLWYDD.
2 Chronicles 33:18A’r rhan arall o hanes Manasse, a’i weddi ef at ei DDUW, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw ARGLWYDD DDUW Israel, wele hwynt ymhiith geiriau brenhinoedd Israel.