Llyfr Deuteronomium 4:29
Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 4
Cross References
Deuteronomy 30:1Gosod angau ac einioes o flaen y bobl. A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a’r felldith, y rhai a roddais o’th flaen, ac adgofio o honot hwynt ym mysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di attynt;
1 Samuel 7:3A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch; chwi at yr ARGLWYDD â’ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o’ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a’ch gwared chwi o law y Philistiaid.
2 Kings 10:31Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith ARGLWYDD DDUW Israel a’i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. º
2 Chronicles 15:2Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr AR¬GLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau.
2 Chronicles 15:12A hwy a aethant dan gyfamod i geisio ARGLWYDD DDUW eu tadau, a’u holl galon, ac a’u holl enaid:
2 Chronicles 31:21Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd.efe yng ngweinidogaeth tŷ DDUW, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei DDUW, efe a’i gwnaeth a’i holl galon, ac a ffynnodd.